Enwebu

Enwebwch rywun yng nghymuned Abergele a Phensarn.

Cafodd portreadau ‘Tref Enwogion' eu cymryd dros gyfnod byr iawn ychydig cyn wythnos gyntaf darlledu cyfres ‘I’m a Celebrity’ o Gastell Gwrych. Maent yn rhoi cipolwg o’n cymuned ac rydym ni’n gobeithio dychwelyd am ddiwrnod arall o dynnu lluniau yn y flwyddyn newydd.

Defnyddiwch y ffurflen i awgrymu pobl y mae’n bosibl ein bod wedi eu colli ac a hoffai gael eu cynnwys – fe dynnir llun y 10 uchaf o ran nifer yr awgrymiadau*

*Mae’r enwebiadau yn cau ar 15 Mawrth 2021- Dim ond un enwebiad i bob unigolyn/cyfeiriad e-bost fydd yn cael ei gyfrif.